Oscar Pistorius
Mae’r barnwr yn achos Oscar Pistorius wedi dweud heddiw na ellir ei gael yn euog o lofruddio ei gariad, Reeva Steenkamp, ond fod ei ymddygiad wedi bod yn “esgeulus.”
Mae sylwadau’r barnwr Thokozile Masipa yn awgrymu y gallai’r athletwr ei gael yn euog o ddynladdiad.
Dywedodd Thokozile Masipa yn y llys yn Pretoria heddiw ei bod yn teimlo fod Pistorius wedi ymddwyn yn esgeulus pan daniodd gwn at ddrws yr ystafell ymolchi, gan ladd Reeva Steenkamp.
Fe awgrymodd nad oedd Pistorius yn euog o lofruddiaeth fwriadol na llofruddiaeth anfwriadol ond mae’n bosib y bydd yn ei gael yn euog o ladd drwy esgeulustod.
Dywedodd nad oedd yr erlyniad wedi profi y tu hwnt i amheuaeth bod Pistorius wedi bwriadu llofruddio’r fodel.
Mae lladd drwy esgeulustod fel arfer yn arwain at ddedfryd o bum mlynedd yn y carchar ond fe allai gael ei newid gan y barnwr yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Mae Oscar Pistorius yn gwadu llofruddio Reeva Steenkamp, ond yn dweud ei fod wedi ei lladd ar gam gan gredu mai lleidr oedd hi ar ddydd San Ffolant y llynedd.
Cafodd yr achos ei ohirio tan yfory pan mae disgwyl rheithfarn swyddogol yn yr achos.