Yn dilyn marwolaeth dynes o’r Barri, mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn cynnal ymchwiliad i’r ffordd y gwnaeth Heddlu De Cymru ymateb i’r digwyddiad.
Cafodd yr heddlu eu galw i Gwrt Eirlys, yn Y Barri, ar 31 Awst yn dilyn dau gŵyn ar wahân am ddigwyddiad domestig.
Methodd y swyddogion i gysylltu â’r ddynes yn y tŷ ar y ddau achlysur ac yn ddiweddarach, cafodd Lisa Moller, 35, ei darganfod yn farw.
Llwyddodd y swyddogion wnaeth ymateb i’r gŵyn siarad â dyn y tu allan i’r tŷ a’i hebrwng i gyfeiriad arall, a’r dyn yma wnaeth ddarganfod corff Lisa Moller yn ddiweddarach.
Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Polisi
“Mae ein hymchwiliad annibynnol yn edrych ar y ffordd y gwnaeth Heddlu’r De ymateb i alwadau, ac os wnaeth y swyddogion ymdrech ddigonol i wneud yn siŵr bod y bobol y tu mewn i’r tŷ yn ddiogel,” meddai Comisiynydd yr IPCC yng Nghymru, Jan Williams.
“Rydym hefyd eisiau sefydlu pa wybodaeth oedd ar gael i’r swyddogion, ac oes oedd eu hymateb yn cyd-fynd a’r polisi lleol a chenedlaethol.”