Leighton Andrews
Mae Leighton Andrews wedi dychwelyd i swydd Gweinidog yng Nghabinet Llywodraeth Cymru wrth i’r Prif Weinidog Carwyn Jones greu tipyn o syndod ac ad-drefnu’i dîm heddiw.

Fe fydd Andrews, a adawodd ei swydd fel y Gweinidog Addysg llynedd, yn dychwelyd fel Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus sydd yn bortffolio newydd.

Ef fydd yn bennaf gyfrifol am y gwaith o ad-drefnu llywodraeth leol, ar ôl i Gomisiwn Williams awgrymu y dylid uno rhai cynghorau sir yn gynharach eleni.

Fe gyhoeddodd Carwyn Jones ar Twitter toc wedi 1.30yp ei fod yn aildrefnu’r Cabinet, ac mae Gweinidogion wedi bod yn mynd a dod i Barc Cathays drwy’r prynhawn.

Y prif rai’n aros

Does dim newid yn y prif swyddi, gyda Mark Drakeford yn aros fel y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart yn parhau’n Weinidog ar yr Economi, a Huw Lewis yn aros fel Gweinidog Addysg.

Un o’r rhai sydd wedi symud swydd o fewn y Cabinet yw Carl Sargeant, sydd yn Weinidog newydd ar Gyfoeth Naturiol yn lle John Griffiths.

Bydd Jane Hutt yn ychwanegu Busnes y Llywodraeth at ei phortffolio Cyllid presennol, oedd gynt yn gyfrifoldeb ar Lesley Griffiths.

Mae Lesley Griffiths yn symud draw i bortffolio Cymunedau a Threchu Tlodi i gymryd lle Jeff Cuthbert, sy’n gadael am ei fod yn ymddeol o’r Cynulliad yn 2016.

Yn ogystal â Cuthbert mae Gwenda Thomas, oedd yn Ddirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, yn gadael y Cabinet hefyd.

Ken Skates yw’r Dirprwy Weinidog newydd dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, tra bod Vaughan Gething yn symud i fod yn Ddirprwy ar Iechyd, a Rebecca Evans yn parhau fel Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd.

Mae Janice Gregory’n parhau fel Prif Chwip, ac mae Julie James yn ymuno â’r Cabinet am y tro cyntaf fel Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg.

Diolch gan Carwyn

Fe ddiolchodd Carwyn Jones wrth y tri gweinidog fydd yn gadael y Cabinet am eu gwaith fel oedd yn cyhoeddi’r newidiadau ar Twitter y prynhawn yma.

“Hoffwn dalu teyrnged i’r rhai sy’n gadael y Llywodraeth heddiw. Mae eu gwaith caled wedi helpu i wneud Cymru yn wlad well a thecach,” meddai, mewn cyfres o drydariadau.

“Mae Jeff wedi gwneud gwaith gwych ar drechu tlodi, Bil Cenedlaethau’r Dyfodol ac ymateb i’r newidiadau i’r Gyfundrefn Les.

“Mae John wedi gwneud ei farc yn y Llywodraeth yn enwedig fel Cwnsler Cyffredinol ac wrth gyflwyno’r Bil Teithio Llesol arloesol.

“Bydd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol arloesol yn gwella cymaint o fywydau ledled Cymru. Ni fyddai hyn wedi digwydd heb Gwenda.”

I gloi’r cyhoeddiad, dywedodd Carwyn Jones: “Dyma gabinet sydd a’r sgiliau a phrofiad i gyflwyno’r newidiadau mae Cymru ei hangen yn y misoedd hanfodol i ddod.”

‘Diflas’

Mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi disgrifio’r ad-drefnu fel un “diflas a difflach”:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi newid pethau o gwmpas, ond nid yw’n gwneud dim gwahaniaeth o gwbl i’w pholisïau niweidiol, toriadau cyllideb y Gwasanaeth Iechyd, y system addysg wan na’r ffaith eu bod yn troi cefn ar fentrau preifat,” meddai Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies.

“Dyma’r un hen wynebau blinedig sydd wedi bod yn eistedd o gwmpas bwrdd y cabinet ers 1999.”

Ac fe ddywedodd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru, Elin Jones fod newidiadau Carwyn Jones yn “ddiflas a difflach”:

“Nid oes yr un siawns dan haul y bydd y cabinet hwn yn dod a’r newidiadau mae pobol Cymru eisiau eu gweld.”