Cafodd arbenigwyr difa bomiau eu galw i stad ddiwydiannol Tŷ Glas, Llanisien y bore ma, ar ôl i becyn amheus gael ei ddarganfod yn swyddfa Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC).

Bu’n rhaid i tua 2,000 o weithwyr adael yr adeilad ac fe gafodd y ffyrdd a llwybrau cerdded cyfagos eu cau gan yr heddlu.

Mae’r arbenigwyr bellach wedi dweud nad oedd y pecyn yn beryglus.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: “Fe wnaethom ymateb fel rhagofal i’r math yma o sefyllfa. Cafodd y gwasanaethau brys yn ogystal â’n partneriaid yn y fyddin eu galw i ymdrin â’r pecyn amheus gafodd ei ddosbarthu i’r adeilad y bore ma.”

Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu cydweithrediad.