Mae rhai o drigolion Ynys Môn wedi beirniadu corff o Lywodraeth Prydain am beidio â chadw cofnodion o gyfarfod cyhoeddus am wastraff niwclear.
Nos Iau ddiwethaf fe gynhaliodd CoRWM gyfarfod cyhoeddus ym Mhlas Tre-ysgawen i drafod eu gwaith, sef canfod safle ar gyfer tomen o wastraff o bwerdai niwclear Prydain.
Pan ddatgelwyd gan Golwg ym mis Chwefror fod Ynys Môn yn cael ei ystyried fel safle fe gododd gwrthwynebiad lleol yn syth, gyda’r Aelodau Seneddol a Chynulliad lleol yn dweud nad oedd croeso i’r fath safle.
Cafodd y gwrthwynebiad lleol hwnnw ei gyflwyno i bwyllgor CoRWM yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf – ond ni wnaeth y corff gymryd unrhyw gofnodion o’r ymateb yn y cyfarfod.
Fideo o’r cyfarfod
Er bod bron i wythnos wedi mynd heibio ers y cyfarfod bellach, dyw CoRWM heb ymateb i ymholiadau golwg360 am y cyfarfod.
Ond mae golwg360 wedi cael gafael ar fideo o’r cyfarfod, gyda’r Aelod Cynulliad lleol Rhun ap Iorwerth yn cwestiynu pam nad oedd CoRWM yn gwneud cofnod o sylwadau’r cyhoedd mewn cyfarfod cyhoeddus.
“Heb gadw cofnodion dydach chi ddim yn gallu cadw cofnod o’r farn, a chryfder y farn, yma yn Ynys Môn … [a’r] gwrthwynebiad clir iawn i unrhyw gamau i gladdu gwastraff niwclear geolegol yn Ynys Môn,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Ydi, mae [y cyfarfod cyhoeddus] yn gyfle i ni glywed ganddoch chi, ond be sy’n bwysig ydi bod ni, drwyddoch chi, yn gallu adrodd ein gwrthwynebiad cwbl glir … tuag at gladdu gwastraff niwclear.”
Fe fyddai’r gladdfa wastraff niwclear arfaethedig yn storio gwastraff ymbelydrol lefel uchel y Deyrnas Unedig i gyd, llawer mwy na’r gwastraff lefel isel sydd yno o bwerdy Wylfa ar hyn o bryd.
Mae’r farn yn rhanedig ar yr ynys pan mae’n dod at drafod pwerdy niwclear newydd, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru – ond dyw’n sicr ddim pan mae’n dod at safle wastraff.
“Mae yna rai yn yr ystafell niwclear sydd yn gwbl wrthwynebus i bwerdy niwclear yn Ynys Môn … mae ‘na bobl yma sy’n rhan o’r gwaith i yrru’r prosiect yna yn ei flaen,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Ac mae ‘na bobl yn y canol sy’n fodlon derbyn ynni niwclear oherwydd ei fudd economaidd tra ar yr un pryd yn bryderus ynglŷn â nifer o agweddau ohono fo.
“Ond mae ‘na un peth sy’n ein clymu ni fel pobl yr ynys yma – dydyn ni ddim am fod mewn sefyllfa lle mae Ynys Môn hyd yn oed yn cael ei ystyried fel claddfa niwclear yn y dyfodol.”
‘Pobl yn amheus’
Dywedodd Raymond Evans, oedd yn y cyfarfod i gynrychioli Ffederasiwn y Busnesau Bach, fod CoRWM wedi awgrymu y byddai buddiannau economaidd yn cael eu cynnig i’r ardal oedd yn fodlon rhoi ei henw ymlaen ar gyfer y safle wastraff niwclear.
Ond fe gytunodd ag asesiad Rhun ap Iorwerth mai anghroesawgar i’r posibilrwydd o safle o’r fath ar Ynys Môn oedd awyrgylch y cyfarfod ar y cyfan.
“Roedd y rhan fwyaf o bobl yno’n eithaf amheus o beth oedd ganddyn nhw [CoRWM] i’w ddweud,” meddai Raymond Evans wrth golwg360.
“Fyswn i’n deud eu bod nhw wedi mynd o ‘ma efo argraff gweddol anffafriol, bod y gymuned leol ddim yn ffafrio fo.”