Arweinydd Catalwnia, Artur Mas
Mae disgwyl i hyd at filiwn o bobol orymdeithio yng Nghatalwnia heddiw i fynnu bod llywodraeth Sbaen yn cynnal refferendwm annibyniaeth.
Cafodd yr orymdaith ei threfnu i gyd-fynd â Diwrnod Cenedlaethol Catalwnia, ac mae’r trigolion yn gobeithio defnyddio’r achlysur i newid agwedd llywodraeth Sbaen tuag at roi’r hawl iddyn nhw gynnal y refferendwm ar Dachwedd 9.
Hyd yma, mae llywodraeth Sbaen wedi dadlau na fyddai cynnal refferendwm yn gyfansoddiadol.
Dywedodd arweinydd Catalwnia Artur Mas heddiw nad yw ei lywodraeth wedi rhoi’r gorau i’w cynlluniau i fwrw ymlaen gyda’r refferendwm, beth bynnag fydd ymateb llywodraeth Sbaen.
Mae disgwyl i ymgyrch Catalwnia sbarduno trigolion Corsica, sy’n bwriadu brwydro tros annibyniaeth o Ffrainc, ac fe allai cenedlaetholwyr yng Ngwlad Belg fynnu rhagor o hawliau, a allai olygu annibyniaeth i drigolion Ffleminaidd.