Barack Obama
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi croesawu cynlluniau Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama i fynd i’r afael ag eithafwyr Islamaidd IS yn Syria.

Bwriad yr Arlywydd Obama yw awdurdodi cyrchoedd awyr tros Syria, ond dywedodd Cameron nad yw Prydain yn barod i weithredu’n filwrol ar hyn o bryd.

Bydd y cyrchoedd yn digwydd ochr yn ochr â chyrchoedd eraill tros Irac, lle bydd hyd at 500 o filwyr Americanaidd yn cael eu hanfon i gynnig cefnogaeth i luoedd diogelwch y wlad.

Galwodd Obama heddiw am gytuno ar raglen i hyfforddi ac arfogi gwrthryfelwyr Syria sy’n brwydro yn erbyn IS a llywodraeth Bashar Assad.

O safbwynt cefnogaeth Prydain, cafodd gweithgor brawychiaeth ei sefydlu yn dilyn llofruddiaeth y milwr Lee Rigby yn Woolwich, sydd wedi diffinio radicaliaeth Islamaidd ac sydd wedi cyflwyno gorchmynion brawychiaeth ac ymddygiad eithafol er mwyn i awdurdodau allu cymryd camau yn erbyn pobol sydd â bwriadau radicalaidd.

Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing mai bwriad cyfarfod y gweithgor heddiw oedd ceisio ymestyn pa mor effeithiol ydyw wrth frwydro yn erbyn IS.