Mae Clwb Pêl-droed Llanberis wedi trefnu gêm i godi pres ar gyfer un o’u haelodau sydd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl damwain car.

Cafodd Gwion Dafydd Williams, sy’n byw ym Methel ger Caernarfon, ei gludo i’r ysbyty gan Ambiwlans Awyr yn dilyn y ddamwain rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno ar 3 Medi.

Mae wedi derbyn triniaeth frys ac mae ei deulu gydag o wrth ymyl ei wely yn uned anafiadau difrifol Ysbyty Prifysgol Gogledd Swydd Staffordd yn Stoke.

Bydd y gêm, rhwng timau Llanberis a Llanrug, yn cael ei chynnal ddydd Sul ar gae pêl-droed Llanberis, Ffordd Padarn i gychwyn am 1yp.

System draffig

Yn dilyn y ddamwain, dywedodd yr AC ar gyfer gogledd Cymru, Aled Roberts, fod angen i Lywodraeth Cymru lunio strategaeth newydd sy’n mynd i’r afael a’r tagfeydd traffig ar yr A55.

Ychwanegodd: “Ar ddiwedd y dydd, mae angen i ogledd Cymru gael system integredig i ddelio hefo’r holl broblemau traffig sydd ganddom ni.”