Stadiwm yn Mileniwm yng Nghaerdydd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi croesawu adroddiad gan UEFA i’r 19 dinas sydd wedi gwneud cais i gynnal Ewro 2020, sydd yn weddol ffafriol tuag at Gaerdydd.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn codi rhai cwestiynau ynglŷn â chyfleusterau prifddinas Cymru ar gyfer rhai elfennau o allu cynnal gemau’r bencampwriaeth, gan gynnwys llety, trafnidiaeth a pharcio.

Mae Cymru’n cystadlu i geisio bod yn un o’r 13 dinas fydd yn cael ei dewis i gynnal pedair o gemau Pencampwriaeth Ewrop yn 2020.

Petai’r cais yn llwyddiannus fe fyddai tair gêm grŵp ac un gêm o rownd yr 16 neu’r wyth olaf yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

Gyda Llundain yn debygol o ennill yr hawl y gynnal ffeinal a’r rownd gynderfynol mae’n ymddangos fel y bydd hi’n frwydr rhwng Caerdydd, Dulyn a Glasgow i gynnal gemau grŵp, gyda dwy o’r dinasoedd yn debyg o fod yn llwyddiannus.

Adroddiad cymysg

Yn yr adroddiad mae UEFA’n rhoi clod i elfennau cynaladwyedd, gwleidyddol a masnachol cais Cymru, ac ar y cyfan maen nhw’n fodlon â’r stadiwm, llety a sefyllfa drafnidiaeth hefyd.

Fodd bynnag, fe godwyd rhai pryderon ynglŷn â’r sefyllfa barcio yng nghanol Caerdydd yn agos i Stadiwm y Mileniwm yn ogystal â lle o gwmpas y stadiwm ar gyfer cyfleusterau ychwanegol.

Maen nhw’n nodi hefyd y byddai’n rhaid dibynnu ar feysydd awyr Bryste, Birmingham a Llundain er mwyn i deithwyr tramor allu cyrraedd Caerdydd, ac y byddai’n rhaid i rai ymwelwyr aros mewn dinasoedd y tu allan i Gaerdydd gan nad oes digon o westai yn y brifddinas.

Fe fydd rhywfaint yn galonogol i Gymru, fodd bynnag, bod rhai o’r un problemau yn bodoli yng nghais rhai o’r dinasoedd eraill fydd yn cystadlu yn eu herbyn.

Mae’r un pryderon am ddiffyg lle i gyfleusterau a pharcio o gwmpas Stadiwm Aviva yn cael eu codi yng nghais Dulyn.

Mae problemau technegol a diffyg cyfleusterau hefyd yn cael eu nodi Hampden Park yng Nglasgow, yn ogystal â diffyg lle masnachol a marc cwestiwn dros y sefyllfa wleidyddol petai’r Alban yn mynd yn annibynnol.

Mae UEFA’n cyhoeddi’r dinasoedd buddugol ar 19 Medi – ychydig oriau ar ôl yr amser y bydd disgwyl cyhoeddiad ar ganlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban.

Croeso gan CBDC

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi croesawu’r adroddiad gan UEFA, gan ddweud y byddai maint Stadiwm y Mileniwm a’r cyfleusterau lletygarwch yn siŵr o godi digon o arian.

Maen nhw hefyd wedi ceisio darbwyllo UEFA bod y man broblemau a nodwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â Chaerdydd yn rhai sydd yn medru cael eu goresgyn.

“Erbyn 2020, fe fydd cysylltiadau trên i Lundain lawr i 90 munud, a phan rydych chi’n ystyried Birmingham hefyd mae CBDC yn medru cynnig pedwar maes awyr ryngwladol o fewn dwy awr i Gaerdydd,” meddai datganiad gan y Gymdeithas.

“Bydd y rhan fwyaf o westai UEFA o fewn pellter cerdded i’r stadiwm, ac rydym ni wedi sicrhau 41,000 o wlâu i gefnogwyr – dwbl faint mae UEFA’n gofyn am – sydd i gyd o fewn ardal deithio am ddim CBDC.

“Rydym ni’n credu ein bod wedi cyflwyno cais cryf fydd yn elwa UEFA a phêl-droed ar bob lefel yng Nghymru.”

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed hefyd yn gobeithio bod cynnal ffeinal y Super Cup yn llwyddiannus ym mis Awst, yn ogystal â’r ffaith bod Caerdydd wedi cynnal rhan o gynhadledd NATO yn ddiweddar, o’u plaid nhw hefyd.

“Fe wnawn ni bopeth y gallwn ni cyn y penderfyniad i ddangos manteision ein cais,” ychwanegodd y Gymdeithas.

“Os cawn ni’r fraint o gael ein dewis fel dinas fydd yn cynnal UEFA Ewro 2020 fe fydd CBDC, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a’i holl bartneriaid yn sicrhau profiad o bêl-droed Ewropeaidd gwych.”