Aaron Ramsey
Mae Aaron Ramsey wedi cyfaddef ei fod e byth eisiau chwarae ar gae artiffisial eto ar ôl iddo gael anaf ym munud olaf y gêm yn erbyn Andorra.
Dim ond cic rydd hwyr gan Gareth Bale lwyddodd i achub croen Cymru a sicrhau buddugoliaeth agos o 2-1 nos Fawrth yn erbyn tîm gwanaf eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016.
Fe achosodd gae artiffisial Andorra broblemau i Gymru drwy gydol y gêm, gyda Ramsey’n troi ei ffêr yn y munud olaf.
Mae amheuaeth nawr a fydd yn ffit i chwarae dros Arsenal yn erbyn Man City ar y penwythnos, ac mae’r chwaraewr ei hun yn mynnu fod bai ar y cae.
“Fi’n gobeithio mai dyna’r tro olaf fi’n chwarae ar gae plastig,” meddai Ramsey. “Roedd y cae yn galed iawn, doedd e ddim yn rhoi o gwbl, a nes i rowlio’n ffêr i ychydig.
“Roeddwn i’n gallu’i deimlo ychydig, ond gobeithio fod e’n ddim byd ac y bydda’i ar gael i ddydd Sadwrn.”
Brwydro nôl
Fe aeth Cymru ar ei hôl hi ar ôl dim ond chwe munud yn Andorra ar ôl i Neil Taylor ildio cic o’r smotyn.
Ac er iddyn nhw frwydro nôl gyda pheniad gan Bale hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf, cyn ei gôl hwyr i sicrhau’r fuddugoliaeth, doedden nhw methu chwarae’u gêm basio slic ar y cae plastig.
Fe chwaraeodd hynny ran ym mherfformiad sâl Cymru, yn ôl Ramsey, ac mae’n credu y bydd timau eraill yn wynebu’r un drafferth pan maen nhw’n ymweld â’r wlad fechan ym mynyddoedd y Pyrenees.
“Achos o’r cae doedden ni methu canfod ein rhythm,” meddai Ramsey. “Fel arfer ‘dyn ni’n chwarae’n gyflym, cadw fe ar y llawr, chwarae o gwmpas timau.
“Ond doeddech chi methu chwarae’n gyflym a fi jyst ddim yn gwybod sut chi fod i chwarae pêl-droed ar y cae yna i fod yn onest.
“Fe enillodd Ciprys yn Bosnia a fi’n meddwl yn y grŵp yma bydd timau’n cymryd pwyntiau oddi ar ei gilydd a bydd lot o dimau’n cael trafferth [yn Andorra] ar y cae yna.”
Cosb i Gymru?
Er bod y fuddugoliaeth yn Andorra, a cholled Bosnia yn erbyn Ciprys, yn golygu dechrau da i Gymru yn y grŵp o ran pwyntiau, mae cwmwl du posib ar y gorwel.
Wrth ddathlu gôl fuddugol Bale fe ddaeth rhai o gefnogwyr Cymru ar y cae, gan achosi trafferthion i’r stiwardiaid prin oedd yno i geisio’u dal nhw nôl.
Mae UEFA nawr wedi cadarnhau eu bod wedi dechau camau disgyblu yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru am y digwyddiad – yn ogystal ag Andorra am ddiffyg trefn a chasglu gormod o gardiau melyn yn ystod y gêm.
Gallai Cymru gael rhybudd neu wynebu dirwy am fethu â rheoli’u cefnogwyr – ac fe allai’r awdurdodau hyd yn oed orfodi’r tîm i chwarae gêm y tu ôl i ddrysau caeedig, neu dynnu pwyntiau oddi arnyn nhw.
Mae’n annhebygol y bydd UEFA’n gosod y cosbau llymaf ar Gymru oherwydd mai dyma’r tro cyntaf i broblem o’r fath godi gyda’u cefnogwyr ac oherwydd na barodd yn hir.
Ond fe fydd Cymru’n cael clywed beth yw eu cosb pan mae UEFA’n adrodd nôl ar yr achos ar 16 Hydref, ychydig ddyddiau ar ôl dwy gêm nesaf Cymru yn yr ymgyrch yn erbyn Bosnia a Chiprys.