John Kerry
Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry wedi apelio ar arweinydd lluoedd Shia yn Irac i roi mwy o rym i luoedd Swnni er mwyn gorchfygu eithafwyr Islamic State.
Mae Kerry yn Irac ar hyn o bryd, ddeuddydd wedi i Brif Weinidog newydd Irac, Haider al-Abadi gael ei benodi’n ffurfiol.
Hwn yw’r cyfarfod cyntaf rhwng y ddwy wlad ers i’r arweinydd newydd gael ei ethol a gobaith yr Unol Daleithiau yw ategu eu hymrwymiad i Irac dair blynedd wedi i luoedd arfog adael y wlad.
Yn dilyn cyfarfod y bore ma, dywedodd al-Abadi fod trafferthion Irac wedi cael eu hachosi gan y sefyllfa yn Syria, lle mae’r Wladwriaeth Islamaidd wedi dechrau ymsefydlu.
Galwodd ar yr Unol Daleithiau a’r Cenhedloedd Unedig i ymyrryd er mwyn datrys y sefyllfa.
Mae John Kerry wedi canmol arweinydd newydd Irac am ei barodrwydd i ffurfio llywodraeth newydd ac am addo rhoi mwy o rym i luoedd Swnni.
Dywedodd fod y camau hynny’n “galonogol”.
Bydd cyfarfod rhwng Kerry a rhai o arweinwyr y Dwyrain Canol yfory.
Yn y cyfamser, cafodd dau fom eu ffrwydro yn Baghdad Newydd y bore ma, gan ladd 13 o bobol.
Fe fydd cyfarfod ddydd Llun yn Ffrainc o holl aelodau parhaol Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig – yr UDA, Ffrainc, y DU, Rwsia a Tsieina i drafod dyfodol Irac.
Does dim sicrwydd eto a fydd gwahoddiad i Iran ymuno yn y trafodaethau.