Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans wedi ymddiheuro wrth deulu dyn o Lanelli fu farw o ganlyniad i strôc, wedi iddo aros am awr cyn i ambiwlans ei gyrraedd.
Roedd Trevor Bryer, 72, yn byw 500 llath i ffwrdd o Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli, ond cafodd ambiwlans ei anfon o Hwlffordd, sydd dros 50 milltir i ffwrdd.
Bu farw’r claf ddeuddydd yn ddiweddarach ac fe gafodd ymchwiliad ei gynnal gan y Gwasanaeth Ambiwlans yn dilyn ei farwolaeth.
Cafodd tair galwad eu gwneud i’r gwasanaethau brys wedi iddo ddioddef strôc yn ei gartref yn Llanelli.
Bu’n rhaid i’w wraig aros bedwar mis cyn derbyn yr ymddiheuriad.
Wrth ymddiheuro, dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans fod yn rhaid i’r ymchwiliad fod yn drylwyr er mwyn sicrhau bod ei deulu’n derbyn atebion.