David Cameron
Dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron y bore ’ma y byddai’n “torri ei galon” pe bai’r Alban yn gadael y Deyrnas Unedig.

Yn ystod ymweliad â chwmni Scottish Widows yng Nghaeredin, dywedodd fod ei genedl yn golygu llawer mwy iddo na’r Blaid Geidwadol.

Mae Cameron, y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg ac arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband i gyd yn Yr Alban heddiw i bledio achos y bleidlais ‘Na’ cyn i’r refferendwm gael ei gynnal ar Fedi 18.

Dywedodd Cameron: “Mae gen i fwy o feddwl o’m gwlad na’m plaid.

“Mae gen i lawer o feddwl o’r wlad anhygoel hon, y Deyrnas Unedig hon y gwnaethon ni ei hadeiladu gyda’n gilydd.

“Byddwn i’n torri ’nghalon pe bai’r teulu hwn o genhedloedd yr ydyn ni wedi’i adeiladu’n cael ei rwygo.”

Dywedodd wrth gynulleidfa o weithwyr fod ymgyrch ‘Better Together’ wedi cyflwyno dadleuon cryf o blaid cynnal yr undeb.

Rhybuddiodd na ddylid ystyried y refferendwm yn gyfle i roi ergyd i’r Ceidwadwyr, gan fod y penderfyniad i fynd yn annibynnol yn un ag iddo oblygiadau hirdymor.

Ychwanegodd fod Yr Alban yn “genedl gref, falch a chanddi hanes rhyfeddol a phobol ddawnus dros ben” ond ei bod hi “wedi dewis dros y 300 o flynyddoedd diwethaf i fod yn rhan o deulu o genhedloedd”.

Dywedodd y byddai’n cymryd “camau cyflym a chynhwysfawr” i sicrhau bod Yr Alban yn derbyn rhagor o bwerau deddfu pe bai’n aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Standard Life

Yn y cyfamser mae Alex Salmond wedi wfftio pryderon bod cwmni Standard Life yn paratoi i adael yr Alban yn sgil pleidlais o blaid annibyniaeth.

Roedd y cwmni pensiynau ac yswiriant wedi cyhoeddi datganiad heddiw yn cynghori buddsoddwyr eu bod yn cynllunio ar gyfer sefydlu “cwmnïau newydd rheoleiddiedig yn Lloegr fel y gallwn drosglwyddo rhannau o’n busnes petai angen gwneud hynny.”

Ond dywedodd Alex Salmond bod yr honiadau yn “nonsens” a bod cwmnïau ariannol eraill yn credu bod ’na gyfleoedd sylweddol yn sgil annibyniaeth.