Dylan Moore (llun cyhoeddusrwydd o wefan y practis)
Mae’r cyfreithiwr sydd wedi cael ei gyhuddo o fod â rhan mewn blog dadleuol yn dweud bod yr Aelod Seneddol, Guto Bebb, wedi ei “daflu i’r bleiddiaid” a hynny heb unrhyw sail.

Yn ôl Dylan Moore, mae’r gwleidydd Ceidwadol yn hollol anghywir i ddweud ei fod yn un o awduron blog o’r enw Thoughts of Oscar a oedd, meddai Guto Bebb, wedi enllibio a sarhau pobol.

Mae Dylan Moore, sy’n gweithio yn yr un practis â’r Aelod Seneddol Ceidwadol arall, David Jones, yn cyhuddo Guto Bebb o wneud yr un peth â’r blog – pardduo pobol yn annheg.

Mae wedi “arswydo” at ei ymddygiad, meddai, ond mae Guto Bebb wedi dweud wrth Golwg360 nad yw am wneud sylw pellach.

‘Dim rhan’ meddai David Jones

Yn y cyfamser, mae David Jones hefyd wedi gwneud datganiad yn gwneud yn glir nad oedd ganddo yntau ddim rhan yn y blog.

Roedd yn awgrymu bod “amwysedd” yn sylwadau Guto Bebb yn y Senedd.

Mae yna oblygiadau gwleidyddol i’r ffrae hefyd – mae Guto Bebb a David Jones yn aelodau seneddol Ceidwadol mewn seddi drws nesa’ – Aberconwy a Gorllewin Clwyd.

Datganiad yn gwadu’r honiadau

Mewn datganiad mae’n gwadu’r honiadau a wnaeth Guto Bebb mewn dadl fer yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr ac yn herio’r gwleidydd i wneud ei honiadau y tu allan i’r Senedd, lle byddai’n colli’r amddiffynfa sydd gan aelodau seneddol rhag enllib.

Yn ôl Dylan Moore, roedd yntau wedi dioddef ymosodiadau gan y blog ac mae’n dweud ei fod wedi ceisio siarad gyda Guto Bebb i ddweud hynny.

“Dw i wedi fy arswydo fod unrhyw Aelod Seneddol, heb sôn am fy AS fy hun, yn taflu etholwr diniwed i’r bleiddiaid fel hyn a chuddio dan glogyn braint Seneddol,” meddai yn y datganiad.

“Mae’r bobol sy’n fy adnabod – teulu, ffrindiau a chleientiaid – yn gwybod yn iawn fod yr honiad yn nonsens. Mae’n hysbys yn lleol nad ydw i’n trydar, tecstio na defnyddio ffôn symudol.

“Does gen i ddim diddordeb o gwbl mewn gwleidyddiaeth leol na’r cecru dan din oedd i’w weld yn digwydd ar y blog yma.”

Ymateb Guto Bebb

Dyma ddywedodd Guto Bebb wrth Golwg36o heddiw: “Does gen i ddim sylw pellach i’w wneud ar y mater. Dw i wedi rhoi araith oedd yn deuddeg, bymtheg munud ddoe ac mae ‘na ddigon o wybodaeth yn fana. Unrhyw beth sy’n cael ei ddweud fel arall, does gen i ddim diddordeb.”

Mae’r gwleidydd yn honni ei fod wedi cael enw Dylan Moore gan dditectif preifat, a oedd hefyd wedi enwi dyn busnes o’r enw Nigel Roberts.

Mae Nigel Roberts wedi dweud mai ef sydd y tu cefn i’r blog ac mai ef oedd yr unig awdur.