Mae’r heddlu’n ymchwilio i farwolaeth amheus babi pum mis oed yn ne Llundain heddiw, meddai Scotland Yard.
Cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Llundain eu galw yn dilyn adroddiadau bod babi wedi ei daro’n wael mewn tŷ yn Heol Glastonbury, Sutton toc cyn 7.15yb.
Cafodd y ferch fach ei chludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu Metropolitan y bydd post mortem yn cael ei gynnal a bod swyddogion o’r adran troseddau rhyw a cham-drin plant yn cynnal ymchwiliad.
Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio.