Ar drothwy Gŵyl Golwg y penwythnos hwn, mae gennym ni ychydig o damed i aros pryd i chi – rhai o fideos Ap Golwg o’r flwyddyn ddiwethaf, nawr i’w gweld ar-lein!

I’r rheiny ohonoch chi sydd yn lawrlwytho Ap Golwg i’ch teclynnau electronig bob wythnos fe fyddwch chi eisoes yn gyfarwydd â rhai o’r clipiau fideo, cyfweliadau a thraciau sain, ac orielau lluniau ychwanegol sydd yn dod fel rhan o’r rhifynnau hynny.

Ac i’r rheiny ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd â’r cynnwys ychwanegol sydd ar gael ar yr Ap, fe fyddwn hwn yn gyfle cyntaf i chi wylio rhai o’r clipiau fideo arbennig sydd wedi cydfynd â rhai o straeon y flwyddyn ddiwethaf.

Fe fyddwn ni’n rhyddhau rhagor o fideos a chyfweliadau, gan gynnwys ym meysydd gwleidyddiaeth a chwaraeon, yn nes ymlaen yr wythnos hon – ond dyma ambell gyfweliad rydych chi wedi methu o bosib:

Sion Jobbins – The Phenomenon of Welshness II

Cyfweliad â Sion Jobbins, awdur llyfr The Phenomenon of Welshness II, mewn seminar i drafod y gyfrol.

Roedd y llyfr, o dan yr is-deitl ‘Is Wales too poor to be independent?’, yn gasgliad o erthyglau am bob math o agweddau’n ymwneud â Chymreictod, ac yn dilyn ei lyfr cyntaf o’r teitl hwnnw.

Gwenllian Lansdown Davies – prif weithredwr y Mudiad Meithrin

Cafodd Gwenllian Lansdown Davies ei phenodi’n brif weithredwr newydd ar y Mudiad Meithrin eleni – dyma sgwrs Golwg â hi pan gyhoeddwyd y penodiad, wrth iddi edrych ymlaen at ei swydd newydd.

Phyllis Price – triniaeth llygad arloesol

Sgwrs â Phyllis Price o Lanbedr Pont Steffan, fu yn Golwg yn ddiweddar yn siarad am driniaeth arloesol i’w llygad a gafodd yn ddiweddar. Cafodd technoleg newydd ei ddefnyddio ar gyfer y driniaeth oedd wedi’i addasu o lens oedd yn rhan o delesgop Hubble, a Phyllis oedd un o’r cyntaf i fanteisio ar y math yma o lens yn ei llygad.

Dylan Rowlands – Dylanwad Da

Sgwrs â Dylan Rowlands o fwyty Dylanwad Da yn Nolgellau, am y llyfr ‘Bwyd a Gwin’ a gyhoeddwyd i nodi 25 mlynedd o fodolaeth y bwyty – a Dylan yn rhoi ychydig o tips ar ba winoedd i’w dewis!