Mae dynes 70 oed o’r Fenni mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei tharo gan gar tra’n cerdded ger Ysbyty Neville Hall.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ynglŷn â’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ddydd Mawrth, 9 Medi tua 4.30yp ar yr A40 ger yr ysbyty.
Cafodd y ddynes anafiadau difrifol ar ol bod mewn gwrthdrawiad gyda char Skoda ac mae hi mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae gyrrwr y car wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus ac mae’n cael ei holi gan yr heddlu. Roedd dynes yn teithio yn y car ond ni chafodd ei hanafu.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 337 09/09/14.