Ysbyty Tywysoges Cymru
Mae dwy nyrs a gafodd eu harestio fis diwethaf fel rhan o’r ymchwiliad i honiadau o esgeulustod bwriadol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr bellach wedi cael eu cyhuddo.

Dywed Heddlu’r De bod Jade Pugh, 29, wedi cael ei chyhuddo o dri achos o esgeulustod bwriadol yn groes i Adran 44 o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Mae Natalie Jones, 40, wedi’i chyhuddo o bedwar  achos o esgeulustod bwriadol yn groes i Adran 44 o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Fe fydd Natalie Jones yn mynd gerbron Llys Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Gwener, 12 Medi a Jade Pugh ar ddydd Mercher, 24 Medi.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud a thri chlaf sydd eisoes yn rhan o’r ymchwiliad.
Mae’r heddlu wedi cysylltu â chleifion neu deuluoedd y cleifion sy’n gysylltiedig â’r achos er mwyn eu hysbysu am y datblygiadau diweddaraf.

Mae cyfanswm o 15 o nyrsys wedi cael eu gwahardd bellach gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bro Abertawe fel rhan o’r ymchwiliad sy’n parhau. Mae tair nyrs arall eisoes wedi’u cyhuddo o esgeulustod bwriadol.