Guto Bebb
Mae Nigel Roberts, un o’r tri dyn sy’n cael eu cyhuddo o sgrifennu blog a fu’n “ymosod, sarhau a thargedu” unigolion, wedi mynnu mai ef yw’r unig awdur.

Mae’n gwadu honiadau’r Aelod Seneddol Guto Bebb fod dau ddyn arall yn rhan o’r sgrifennu, gan gynnwys cyfreithiwr sy’n gweithio yn yr un practis â’r Aelod Seneddol drws nesa’, David Jones.

Yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr roedd Guto Bebb, AS Ceidwadol Aberconwy, wedi cyhuddo Nigel Roberts, y cyfreithiwr Dylan Moore a dyn arall na chafodd ei enwi o lunio’r blog dienw Thoughts of Oscar a chyhoeddi honiadau enllibus.

Roedd hefyd yn cyhuddo Heddlu Gogledd Cymru o “gydweithio” gydag awduron y blog, ac o anwybyddu cwynion gan aelodau o’r cyhoedd oedd wedi cael eu “sarhau” ar-lein.

Ditectif preifat

Yn ôl Guto Bebb, roedd ditectif preifat o’r enw Michael Naughton wedi dod o hyd i’r tri enw, ar ôl cael ei gyflogi gan ddau aelod o’r cyhoedd.

Mae Dylan Moore yn gweithio yn swyddfa Cyfreithwyr David Jones, cyn-Ysgrifennydd Cymru, a Nigel Roberts yn ddyn busnes lleol. Doedd Guto Bebb ddim wedi enwi’r trydydd dyn am nad oedd, meddai, yn ddigon sicr ohono.

Mae’r blog wedi cael ei dynnu i lawr erbyn hyn.

‘Ymosodiadau deifiol’

Yn y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Guto Bebb:

“Mae’r ymosodiadau yn erbyn fy nghydweithiwr Darren Millar, AC Gorllewin Clwyd, a’r ymosodiadau deifiol yn erbyn Glyn Davies, AS Maldwyn, a oedd yn cynnwys sylwadau dirmygus am y driniaeth ganser yr oedd yn ei derbyn, yn ormod i hyd yn oed wleidydd ei dderbyn.”

Ychwanegodd fod y blog wedi cyhoeddi sylwadau enllibus amdano, a’i fod o ganlyniad wedi derbyn e-byst bygythiol – o ganlyniad i hynny yr oedd wedi cysylltu â’r heddlu.

Mae’n honni i’r heddlu ddweud nad oedd modd ymchwilio i’r gŵyn.

Ymateb

Mewn ymateb i’r sylwadau, dwedodd Nigel Roberts: “Fi yw unig awdur y blog – doedd gan neb arall ddim i’w wneud â’r peth.

“Mae Guto Bebb yn dweud nad ydy o’n fy nghoelio. Ond dyma’r gwir.”

Mae disgwyl i David Jones a Dylan Moore ymateb i’r honiadau heddiw.