William Melchert-Dinkel
Mae nyrs o’r Unol Daleithiau wedi’i gael yn euog o hwyluso hunanladdiad dyn o Loegr ac o geisio hwyluso hunanladdiad dynes o Ganada.

Mae’r achos yn erbyn William Melchert-Dinkel wedi para dros bedair blynedd.

Daeth llys ym Minnesota i’r casgliad fod Melchert-Dinkel wedi cynorthwyo Mark Drybrough o Coventry i ladd ei hun.

Doedd dim prawf, meddai’r llys, ei fod e’n gyfrifol am hunanladdiad Nadia Kajouji o Ontario ond fe benderfynon nhw ei fod e wedi ceisio’i chynorthwyo.

Mae Melchert-Dinkel yn bwriadu apelio, ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ym mis Hydref.

Cafwyd e’n euog o annog y ddau i ladd eu hunain yn 2011 ond cafodd y dedfrydu ei ohirio er mwyn rhoi’r hawl iddo apelio.

Crogodd Mark Drybrough yn 2005, tra bod Nadia Kajouji wedi boddi mewn afon yn 2008.

Clywodd y llys fod Melchert-Dinkel wedi rhoi cyfarwyddiadau i’r ddau ynghylch sut i grogi eu hunain.

Tra nad yw rhoi cyngor i bobol ynghylch hunanladdiad yn drosedd, penderfynodd y llys fod rhoi cyngor yn cyfateb i geisio cynorthwyo.

Clywodd y llys fod Melchert-Dinkel wedi targedu pobol ar-lein oedd yn dioddef o iselder, gan esgus bod yn nyrs oedd yn dioddef o iselder hefyd.