Mae dyn o Gymru oedd yn byw yn Awstralia wedi cael ei ladd gan siarc ym Mae Byron yn New South Wales.
Cafodd Paul Wilcox, 50, ei anafu gan siarc gwyn wrth iddo nofio 15 metr oddi ar y lan.
Roedd ei wraig, Victoria yn cerdded ar y traeth pan ddigwyddodd yr ymosodiad ddydd Mawrth.
Mae ei fam yn byw yng ngogledd Cymru o hyd, ac mi ddywedodd wrth y BBC nad oedd hi’n gallu dod i delerau â cholli ei mab.
Dywedodd: “Roedd gen i fab hapus oedd wedi addasu’n dda, ac roedd e’n siarad â fi’r diwrnod blaenorol.
“Bedair awr ar hugain yn ddiweddarach ac mae o wedi marw ac alla’ i ddim amgyffred â’r peth.
“Mae o mor greulon. Fy unig gysur ydi ei fod o wedi marw yn hytrach na chael ei anafu neu ei niweidio a gorfod cael ei nyrsio.
“Roedd o ymhen draw’r byd ac allwn i ddim dangos cariad iddo fo na’i helpu fo a’i wraig Victoria – mi fydd angen llawer o gysur arni hithau.”
Bu Paul Wilcox yn byw yn Sydney cyn symud i Fae Byron, ac fe fu yn Awstralia ers 30 o flynyddoedd.
Dywedodd yr heddlu ei fod e wedi cael ei frathu yn ei goes tra’n nofio.
Doedd neb yn goruchwylio’r traeth ar y pryd ac mae’r awdurdodau wedi cau’r traeth i’r cyhoedd am 24 awr.