Mae dyn o dalaith Missouri yn yr Unol Daleithiau wedi cael ei ddienyddio am ladd dau o bobol yn ystod lladrad mewn bwyty yn 1998.
Earl Ringo Jr yw’r wythfed person yn y dalaith i gael ei ddedfrydu i farwolaeth eleni.
Derbyniodd bigiad marwol yn ystod oriau man y bore ma.
Cafwyd e a dyn arall yn euog o saethu gyrrwr nwyddau ac un o reolwyr y bwyty’n farw ar Orffennaf 4, 1998.
Gwrthododd y llys ohirio’r dienyddio yn dilyn amheuon y gallai cyffuriau i dawelu Ringor Jr ei atal rhag cyfleu unrhyw boen a mynegi teimladau yn ystod y broses.