Y Llyfrgell Genedlaethol
Fe fydd staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n streicio heddiw, er gwaethaf cynnig 3% o ddyfarniad cyflog i’r holl staff.

Dywed undeb y PCS fod y gweithwyr wedi cael cynnig o 3% anghyfunol.

Bydd y gweithwyr yn derbyn y cyflog byw yn 2015, ond maen nhw’n awyddus i’w dderbyn ynghynt, ac yn gofyn i’r Llyfrgell ddefnyddio’i chyllideb mewn ffordd ddoeth.

Maen nhw’n galw am godiad cyflog o 1% sydd wedi’i gyfuno.

Mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Aled Gruffydd Jones mai testun “siom” yw’r ffaith fod y cynnig wedi cael ei wrthod.

Ychwanegodd Aled Gruffydd Jones: “Mae ymateb yr Undebau’n gynamserol. Fel rhan o’r cynnig y mae’r Llyfrgell hefyd wedi ymrwymo i ystyried gwneud rhan o’r dyfarniad cyflog o 3% yn gyfunol.

“Mae’r Llyfrgell yn ymwybodol iawn o’r sefyllfa gyda chyflogau a dyna pam fod gallu gweithredu dyfarniad cyflog cyfunol yn flaenoriaeth uchel inni.

Dyna’n bwriad, ond rhaid sicrhau yn gyntaf fod yr adnoddau gennym i allu gwneud hynny, a byddwn yn nes at wybod hynny ar 30 Medi pan gyhoeddir cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru”.

Caiff staff y Llyfrgell Genedlaethol eu talu trwy Grant Cymorth Llywodraeth Cymru, ac mae’r grant wedi gostwng yn ystod y degawd diwethaf.

Ychwanegodd Aled Gruffydd Jones fod toriadau pellach i’r grant yn bosib yn ystod y blynyddoedd nesaf.

“Mater o bryder i ni yw’r posibilrwydd real iawn y gwelwn ni doriadau pellach yn ein Grant Cymorth yn 2015-2016 a hynny ar ben y 2% sydd wedi’i dorri’n barod eleni.”

Bydd y Llyfrgell ar gau i’r cyhoedd heddiw.

‘Annheg’

Dywedodd Rob Phillips, cynrychiolydd undeb Prospect ar ran y gweithwyr yn y Llyfrgell wrth golwg360 fod y sefyllfa bresennol yn annheg.

“Dydy’r gweithwyr ddim wedi derbyn codiad cyflog ers 2009 ac mae ein pensiynau ni’n dioddef.

“Ry’n ni’n gwybod fod yr uwch-reolwyr wedi cael cynnig codiad o 10% ac mae hynny’n ein gwneud ni’n grac ac ry’n ni’n meddwl bod hyn yn annheg iawn.”

Dywedodd fod y tair undeb wedi pleidleisio bron yn unfrydol o blaid y streic, gyda 93% o weithwyr sy’n cael eu cynrychioli gan Prospect o blaid.

Roedd y ffigwr yn 96% ymhlith aelodau’r PCS, gyda phob aelod o FPA yn ei chefnogi.

Mae mwy na thri chwarter staff y Llyfrgell yn cael eu cynrychioli gan un o’r tair undeb.

Ychwanegodd Rob Phillips: “Ry’n ni wedi cynnig trafod y sefyllfa gyda’r Llyfrgell ond dim ond unwaith ry’n ni wedi llwyddo i gwrdd, er gwaethaf gofyn.

“Ry’n ni’n teimlo bod y Llyfrgell yn trio twyllo’r staff, gan ddweud bod taliad ‘one-off’ yn cyfateb i godiad cyflog.

“Mae ein pensiynau ni’n dioddef o flwyddyn i flwyddyn o ganlyniad ac maen nhw’n colli gwerth.

“Mae nifer o staff y Llyfrgell yn ennill llai na’r cyflog byw, hyd yn oed.”