Llys Ynadon Westminster
Mae disgwyl i gyn saethwr yr heddlu ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dyn oedd yn cael ei amau o ladrata.

Mae’r cyn swyddog gyda’r Heddlu Metropolitan wedi’i gyhuddo o ladd Azelle Rodney yn fwriadol.

Cafodd ei saethu gan yr heddlu yn Edgware, gogledd Llundain ym mis Ebrill 2005.

Bu farw Azelle Rodney, 24 oed, ar ôl i swyddogion atal y car yr oedd yn teithio ynddo gyda dau ddyn arall. Roedd yr heddlu’n ofni eu bod nhw ar eu ffordd i ddwyn oddi wrth werthwyr cyffuriau o Golombia a bod ganddyn nhw ddryll yn eu meddiant.

Cafodd Azelle Rodney ei saethu chwe gwaith, unwaith yn ei freichiau, ei gefn a phedair gwaith yn ei ben.

Mae’r swyddog yn cael ei adnabod fel E7 ar ôl iddo gael yr hawl i aros yn ddienw yn sgil ymchwiliad i farwolaeth Azelle Rodney.

Mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw.

Cafodd ei gyhuddo ym mis Gorffennaf ar ôl i Wasanaeth Erlyn y Goron adolygu tystiolaeth newydd yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus i farwolaeth Azelle Rodney.