Mae dau o bob tri Aelod Cynulliad yn credu y byddai annibyniaeth i’r Alban o fudd i Gymru wrth geisio ennill rhagor o bwerau deddfu, yn ôl yr ymatebion i arolwg barn gan Ipsos MORI.
Dywedodd 79% o’r aelodau na fyddai pleidlais ‘Ie’ yn Yr Alban ar Fedi 18 yn cael unrhyw effaith ar economi Cymru.
Pe bai’r Alban yn annibynnol, mae Aelodau’r Cynulliad o’r farn y byddai’n golygu cyflwyno rhagor o bwerau ar drethi a benthyg arian yng Nghymru.
Dim ond 25 o 60 o Aelodau’r Cynulliad wnaeth ymateb i’r arolwg – saith o’r Blaid Lafur, wyth Ceidwadwr, chwech o Blaid Cymru a phedwar Democrat Rhyddfrydol.
Er gwaethaf sicrwydd ynghylch manteision annibyniaeth, dim ond ychydig dros draean oedd yn credu y byddai annibyniaeth i’r Alban yn codi’r awydd ym mhobol Cymru i fynd amdani.
Dywedodd 23% y byddai llai o awydd gan bobol Cymru i adael y DU yn sgil annibyniaeth i’r Alban.
Dywedodd 58% o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n credu y byddai cynnydd yn y gyllideb mae Llywodraeth Cymru’n ei derbyn gan San Steffan pe bai’r Alban yn annibynnol.
O ran perthynas gwledydd y DU â’i gilydd pe bai’r Alban yn annibynnol, dywedodd ychydig yn llai na thraean y byddai’r berthynas yn gwaethygu.