Edwina Hart
Fe fydd 75 o swyddi newydd yn cael eu creu yng Nghwmbrân wedi i gwmni cynhyrchu brêcs Meritor arwyddo cytundeb newydd.

Ar hyn o bryd, mae’r cwmni sydd a’i bencadlys yn America, yn cyflogi 450 o bobol yng Nghwmbrân ac mae wedi buddsoddi £25 miliwn yn y safle ers 2010.

Mae’n bwriadu lansio cyfres o gynnyrch newydd ar gyfer Scania ym mis Hydref.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, a fu’n ymweld â’r cwmni’n ddiweddar, fod hyn yn newyddion ardderchog:

“Mae Meritor yn gweithio yn un o’n sectorau allweddol, ac mae Llywodraeth Cymru’n ei gydnabod fel cwmni pwysig i’r rhanbarth o ran cyflogaeth a’i fuddsoddiad parhaus yn safle Cwmbrân.

“Rwy’n falch iawn eu bod wedi ennill y cytundeb pwysig hwn. Bydd yn creu nifer sylweddol o swyddi newydd ac mae’n adlewyrchu gwaith rhagorol y tîm rheoli lleol a sgiliau a hyblygrwydd y gweithlu.”

Ehangu

Ychwanegodd Rheolwr Cyffredinol Meritor, Tony Nicol: “Roedd ennill y cytundeb hwn yn bwysig iawn i ni yn strategol wrth i ni barhau i ehangu’n busnes cynhyrchu systemau brecio ar draws y byd.”

“Rydyn ni’n cyflogi saith deg pump o weithwyr ychwanegol ar gyfer y cytundeb hwn, ac mae sawl un eisoes wedi ymuno â ni. Bydd y gweddill yn dechrau dros y chwe mis nesaf, ac rydyn ni’n rhagweld erbyn hynny y byddwn yn cyflogi tua 500 o bobl yng Nghwmbrân.”