Fe fydd tri o arweinwyr y y prif bleidiau yn San Steffan yn teithio i’r Alban heddiw yn y gobaith o roi hwb i’r ymgyrch ‘Na’ ar drothwy’r refferendwm annibyniaeth.

Fel rhan o’r daith, fe fydd y Prif Weinidog David Cameron, y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg ac arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband yn cynnig amserlen ar gyfer rhagor o bwerau datganoli i’r Alban pe baen nhw’n dewis aros yn rhan o’r DU.

Ond mae Prif Weinidog Yr Alban, Alex Salmond wedi dweud y gallai’r ymweliad roi hwb i’r ymgyrch ‘Ie’ wrth i’r Alban bleidleisio ar Fedi 18, a bod yr ymgyrch ‘Na’ “ar chwâl”.

Mae Cameron a Miliband wedi gohirio Sesiwn Holi’r Prif Weinidog heddiw er mwyn cael teithio i’r Alban.

Dywedodd Salmond: “Does neb yn credu eu haddewidion panig – amserlen ffug yw e ar gyfer pwerau ceiniog a dime.

“Mae pleidlais ‘Ie’ yn rhoi amserlen go iawn ar gyfer y pwerau llawn sydd eu hangen ar Yr Alban.”

“Mae mwy a mwy o bobol yn Yr Alban yn effro i’r ffaith mai dim ond trwy bwerau annibyniaeth y gallwn ni sicrhau gwir bwerau i greu swyddi a sicrhau bod ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei warchod yn llawn.”

Mewn erthygl yn y Daily Mail, dywedodd Cameron fod “dyfodol llewyrchus i’r Alban yn ddibynnol nid yn unig ar aros yn y DU, ond hefyd ar gael pwerau newydd arwyddocaol”.

Ychwanegodd fod pleidlais ‘Na’ yn golygu cael y gorau o ddau fyd – aros yn rhan o’r DU a chael rhagor o bwerau deddfu.

Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi galw ar bobol Yr Alban i wrthod addewidion yr SNP o “wtopia sosialaidd wedi’r rhaniad”.

Carwyn Jones

Yn ystod ymweliad â Chaeredin ddoe, dywedodd y byddai rhai pleidleiswyr Llafur yn pleidleisio ‘Ie’ er mwyn “torri hualau llywodraeth San Steffan”.

Ond awgrymodd nad oes modd sicrhau cadernid trwy “gerdded i ffwrdd oddi wrth ffrindiau, cymdogion a phartneriaid”.

Ychwanegodd: “Fel Prif Weinidog Llafur, dw i yma i ddweud wrth yr asgell chwith yn Yr Alban fod yr addewid o wtopia wedi’r rhaniad yn alwad i ymateb gan y garfan ‘Ie’ y mae’n rhaid ei wrthod.”

Wrth gyfeirio at lwyddiannau’r undeb, dywedodd: “Fe gyflwynon ni’r isafswm cyflog, fe gyflwynon ni ddatganoli.

“Fe dynnon ni gannoedd o filoedd o blant allan o dlodi. Fe gyflwynon ni heddwch i Ogledd Iwerddon. Fe gynyddon ni gyflog beichiogrwydd ac fe gyflwynon ni gyfnodau tadolaeth.

“Ni wnaeth y Cenedlaetholwyr gyflwyno’r un o’r pethau hyn, gan nad yw’r rhain yn faterion creiddiol i achos cenedlaetholgar.

“Yr unig fater craidd i ymwahanwyr yw ymwahanu.

“Ni fyddai e er lles Cymru ac ni fyddai er lles gweddill y DU.”

“Dydy bod yn wirioneddol wladgarol ddim o reidrwydd yn golygu bod rhaid i chi gredu mewn annibyniaeth.

“Rhaid i chi gredu yn yr hyn sy’n iawn i’ch cenedl.”