Mark Drakeford
Mae canolfan fydd yn gwneud gwaith ymchwil rhyngwladol i glwyfau er mwyn gwella’r gofal i gleifion yn cael ei agor gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford heddiw.

Wedi ei lleoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae’r ganolfan wedi cael ei sefydlu gyda chyllid o £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd.

Bydd gwaith ymchwil yn cael ei wneud yno yn y bwriad o ddarganfod ffyrdd o ddatblygu triniaethau newydd i glwyfau cronig, aciwt neu drawmatig a gwella ffordd o fyw’r cleifion.

“Rwy’n falch iawn o fod yn agor y ganolfan ymchwil newydd gyffrous yma. Mae gobaith y bydd yn denu buddsoddiad ac yn gymorth i greu swyddi yn y sector meddygol technegol.”

“Mae’r boblogaeth yn heneiddio ac mae’r amser a’r gost o drin clwyfau yn cynyddu. Dim ond trwy edrych ar ffyrdd newydd o drin clwyfau fydd modd gwella ansawdd bywyd y cleifion.

Swyddi

Ychwanegodd yr Athro Keith Harding, cyfarwyddwr y ganolfan newydd:

“Fe fydd y gwaith ymchwil yn arwain at lai o bobol yn dod i’r ysbyty ac yn aros yno, fydd maes o law yn lleihau cost gyffredinol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.”

“Byddwn yn cyflogi 31 o bobol i ddechrau, ac rydym yn gobeithio creu 45 o swyddi eraill yn y blynyddoedd i ddod.”