Mae’r Gymdeithas Alzheimer’s yn galw ar Lywodraeth Cymru am fwy o gefnogaeth i fynd i’r afael a’r cyflwr, ar ôl i arolwg ddatgelu mai dim ond un o bob pump o gleifion Alzheimer’s sy’n teimlo eu bod yn derbyn digon o gymorth.

Daeth arolwg ‘Dementia 2014: Cyfle am Newid’ i’r casgliad bod mwy na 55% o bobol Cymru sy’n byw â’r cyflwr yn teimlo yn isel neu’n bryderus.

Dywedodd yr adroddiad hefyd bod disgwyl y bydd 850,000 o bobol yn byw hefo’r cyflwr ym Mhrydain erbyn 2015 – 45,000 o’r rhai yng Nghymru – ac i £26 biliwn gael ei wario ar y cyflwr bob blwyddyn.

Yn sgil hyn, mae’r Gymdeithas Alzheimer’s wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru lunio strategaeth newydd i fynd i’r afael a dementia.

Effaith

“Mae’r arolwg wedi datgelu’r effaith syfrdanol mae dementia yn ei gael ar bobol.

“Mae strategaeth yn hanfodol er mwyn blaenoriaethu cyfraddau diagnosis yng Nghymru, sy’n llusgo’r tu ôl i weddill Prydain, ” meddai Sue Phelps, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Alzheimer’s yng Nghymru.

“Fe ddylai pawb syn dioddef o ddementia fod a mynediad i gefnogaeth i ddelio hefo’r cyflwr. Mae angen gweithredu ar unwaith”.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.