Michael Schumacher
Mae’r cyn bencampwr Fformiwla Un Michael Schumacher wedi gadael ysbyty yn y Swistir er mwyn parhau i wella adref.

Dywedodd ei reolwr, Sabine Kehm, bod yr Almaenwr wedi gwella rhywfaint ers iddo fod mewn coma ar ôl damwain sgïo ym mis Rhagfyr y llynedd ond bod ganddo “ffordd hir ac anodd o’i flaen.”

Mae Schumacher wedi bod yn yr ysbyty yn Lausanne ers mis Mehefin, ar ôl treulio chwe mis mewn ysbyty yn Ffrainc.

Mae’n byw yn Gland, ger Genefa.