Ashya King
Mae Ashya King, y bachgen pum mlwydd oed sy’n dioddef o ganser yr ymennydd, wedi cychwyn derbyn profion mewn clinig yn y Weriniaeth Siec.
Mae meddygon ym Mhrâg yn ei baratoi ar gyfer triniaeth “proton therapy” a fydd yn cychwyn yr wythnos nesaf ac yn para tua phum wythnos.
Cyrhaeddodd Ashya King y Weriniaeth Siec ddoe, yn dilyn brwydr gyfreithiol dros ei ofal.
Cafodd ei rieni eu harestio yn Sbaen ar ôl iddyn nhw fynd a’u mab o Ysbyty Cyffredinol Southampton ar 28 Awst heb ganiatâd meddygon, am nad oedden nhw’n credu fod y gofal yr oedd yn ei gael o’r safon uchaf.
Dywedodd tad y bachgen, Brett King: “Dyma beth roeddem ni eisiau o’r cychwyn. Fe aeth pethau o ddrwg i waeth ar un adeg.
“Roeddem ni eisiau’r gorau i Ashya. Mae’n rhaid iddo wella.”