Llys y Goron Casnewydd
Mae cyn-grwner Sir Gâr a’r cyn-gyfreithiwr, John Owen, wedi pledio’n euog i 17 cyhuddiad yn ei erbyn, gan gynnwys dwyn a chadw cyfrifon ffug yn ymwneud â chyfanswm o dros £1 miliwn.

Yn Llys y Goron Casnewydd heddiw, cyfaddefodd iddo ddwyn yr arian gan gleientiaid wrth weithio fel cyfreithiwr yn Llandeilo dros nifer o flynyddoedd.

Cafodd John Owen, 79, ei arestio ym mis Rhagfyr 2011, yn dilyn honiadau o anghysonderau ariannol yn ei gwmni cyfreithwyr.

Roedd wedi ymddiswyddo fel crwner Sir Gâr ym mis Medi 2011 ar ol bod yn y swydd am 25 mlynedd.

Cafodd ei ryddhau ar fechniaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu ar Hydref 17.

Mae’r barnwr Tom Crowther QC wedi ei rybuddio bod dedfryd o garchar yn debygol.