Mae teulu’r teithwyr oedd ar awyren goll Malaysia Airlines MH370 wedi cwrdd yn Beijing heddiw i nodi chwe mis ers y diflaniad.

Roedd tros 30 o bobol wedi ymgynnull mewn teml yn Beijing i son am eu profiadau, er gwaethaf ymdrechion yr heddlu i’w perswadio i adael.

Roedd un perthynas wedi cyflwyno araith oedd yn dweud faint roedd yn gweld eisiau ei ferch, wnaeth achosi i nifer o’r gynulleidfa ddechrau crio.

Fe ddiflannodd awyren MH370 o Falaysia ar 8 Mawrth, ychydig oriau wedi iddi adael maes awyr Kuala Lumpur ar y ffordd i Beijing.

Er gwaetha’r ymdrechion i ddod o hyd i’r awyren, hyd yn hyn does neb wedi darganfod unrhyw arwydd o weddillion yr awyren.