Gareth Bale
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi cyfaddef ei fod yn ystyried chwarae Gareth Bale fel ymosodwr yn erbyn Andorra oherwydd trafferthion anafiadau diweddar.

Fe fydd Cymru’n herio’r wlad fechan nos fory yn eu gêm agoriadol yng ngrŵp rhagbrofol Ewro 2016, wrth i’r tîm geisio cyrraedd twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 1958.

Does dim disgwyl i Andorra, sydd yn 199ain yn netholiadau’r byd ac wedi colli pob un o’u 44 gêm gystadleuol ddiwethaf, gynnig llawer o her i Gymru.

Mae’n golygu y gallai fod yn gyfle i Coleman brofi seren Real Madrid Gareth Bale yn safle’r ymosodwr, yn dilyn anafiadau i Sam Vokes a Hal Robson-Kanu.

Church neu Bale?

Simon Church yw’r unig brif ymosodwr yn y garfan, er y gallai un o’r bechgyn ifanc fel Tom Lawrence neu George Williams gamu i’r bwlch hefyd petai angen.

Ond er mai ar yr asgell dde mae Bale wedi bod yn chwarae i Gymru’n ddiweddar, mae Coleman yn credu fod ei brif seren yn ddigon da i chwarae unrhyw le.

“Dwi wedi gweld Gareth yn chwarae bobman: cefnwr ymosodol, asgell chwith, canol cae, pob man ar hyd y ffrynt,” meddai Coleman wrth siarad â’r wasg yng ngwesty’r tîm yn Barcelona heddiw.

“Mae’n gallu chwarae ym mhobman. Dyw e ddim yn gyfrinach ein bod ni wedi colli Sam Vokes, mae Simon Church yn brif ymosodwr ond ddim yn chwarae’n rheolaidd i Charlton felly dyw e ddim yn gyfrinach y gallwn ni chwarae fe [Bale] lawr y canol.

“Rydym ni wedi meddwl am hynny ac fe fydd e’n chwarae mewn mwy nag un safle yn ystod yr ymgyrch.”

Problem yr ymosod

Fe fydd gan Gymru dimau anoddach i’w herio nag Andorra yn nes ymlaen yn yr ymgyrch, gyda gemau cartref i ddod yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Chyprus ym mis Hydref cyn taith i Wlad Belg ym mis Tachwedd.

Does dim disgwyl i Vokes fod yn holliach ar gyfer yr un o’r gemau hynny, wrth iddo barhau i wella o anaf difrifol i’w ben-glin.

Fe allai Bale felly fod yn cystadlu â Robson-Kanu a Church i ddechrau yn yr ymosod yng ngweddill gemau’r hydref felly.

Opsiwn arall posib i Gymru fyddai Ched Evans, sydd yn cael ei ryddhau o’r carchar fis nesaf ar ôl ei ddedfryd am dreisio dynes.

Fodd bynnag, mae’n annhebygol y byddai’n ffit i chwarae dros Gymru cyn y flwyddyn nesaf hyd yn oed os yw’n ddigon da i gael ei ddewis – a dyw Coleman na Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penderfynu beth i’w wneud yn ei achos ef eto beth bynnag.

Ennill pa bynnag ffordd

Ond mae Coleman yn ddigon hapus i ganolbwyntio ar un gêm yn unig am nawr, a phoeni am sefyllfa’i ymosodwyr ar gyfer y gemau nesaf yn nes at yr amser.

Ac mae’n rhybuddio na all Cymru gymryd unrhyw beth yn ganiataol er gwaethaf y ffaith eu bod yn chwarae un o dimau gwanaf y byd.

“Ar hyn o bryd, hon yw gêm fwyaf yr ymgyrch,” mynnodd Coleman. “Sut bynnag wnawn ni e, dyw e ddim ots.

“Edrychwch ar ganlyniadau ddoe [yn y gemau rhagbrofol eraill], cafodd cymaint ohonyn nhw eu hennill o gôl yn unig. Fe gollodd Portiwgal i Albania.

“Dydyn ni ddim yn mynd i mewn i’r gêm yma’n meddwl ein bod ni’n mynd i ennill yn y ffordd yma, rydyn ni jyst eisiau ennill.”