Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi’u bod nhw wedi arwyddo’r clo o Dde Affrica De Kock Steenkamp ar gytundeb tair blynedd.
Fe fydd y gŵr 27 oed, sydd yn 1.97m o daldra ac yn pwyso 112kg, yn ychwanegu at opsiynau’r rhanbarth yn yr ail reng.
Mae Steenkamp wedi chwarae 49 o weithiau i’r Stormers yng nghystadleuaeth y Super Rugby yn ogystal â 59 o weithiau i Western Province yn y Currie Cup.
Ac fe ddywedodd y clo wrth arwyddo ei fod yn gobeithio cyfrannu at wneud y Gweilch yn un o dimau gorau Ewrop.
“Mae ymuno â’r Gweilch yn gyfle gwych i mi ac ni allaf aros i ddechrau’r sialens,” meddai Steenkamp.
“Mae edrych o gwmpas y lle a siarad â phobl yno wedi fy ngwneud i’n gyffrous am arwyddo. Rwy’n gobeithio ymuno â’r garfan yn fuan a chwarae rhan yn sicrhau fod y Gweilch yn parhau fel tîm gorau Cymru yn ogystal ag un o oreuon Ewrop.”
Mae disgwyl i Steenkamp fod yn ail ddewis i Alun Wyn Jones fel clo i’r Gweilch, ond gyda’r rhanbarth yn bwriadu gorffwys Jones am gyfnodau yn ystod y tymor fe fydd y gŵr o Dde Affrica’n sicr o gael cyfle i wneud ei farc.
Mae disgwyl iddo hefyd gynorthwyo â datblygiad rhai o chwaraewyr ail reng ifanc y rhanbarth gan gynnwys Rhodri Hughes, Adam Beard, Rory Thornton a Matthew Dodd.