George North
Wrth i’r tymor rygbi ddechrau nôl yn Uwch Gynghrair Lloegr, mae Cymry oddi Cartref hefyd yn dychwelyd er mwyn cadw llygad ar hynt a helynt y bechgyn sy’n chwarae dramor y tymor hwn.
Ac fe allai George North a Northampton ddim bod wedi dychmygu gwell dechrau i’w tymor nhw, wrth iddyn nhw roi cweir i Gaerloyw o 53-6 ar y nos Wener agoriadol.
North oedd seren y sioe gan sgorio hat-tric wrth i’r Seintiau sgorio wyth cais yn erbyn yr ymwelwyr yn Franklin’s Gardens.
Croesodd North yn y gornel ar gyfer y cais agoriadol cyn gwasgu heibio i amddiffynwyr Caerloyw am ei ail cyn yr egwyl, ac ychwanegu trydydd yn yr ail hanner.
Roedd hi’n ddechrau siomedig tu hwnt i dymor i ddau o enwau newydd Caerloyw, Richard Hibbard a James Hook, gyda Hook un trosi un o giciau cosb yr ymwelwyr.
Doedd buddugoliaeth swmpus Northampton ddim yn ddigon i’w rhoi nhw ar frig y tabl erbyn diwedd y penwythnos, fodd bynnag, a hynny ar ôl i Gaerwysg chwalu Cymry Llundain 52-0 ar brynhawn ddydd Sul.
Ar brynhawn siomedig i Gymry Llundain, sydd nôl yn yr Uwch Gynghrair unwaith eto, James Down a Rob Lewis oedd yr unig Gymry oedd ar y cae iddyn nhw, tra bod Ceri Sweeney wedi ymddangos oddi ar fainc y gwrthwynebwyr.
Dechreuodd Caerlŷr eu tymor yn dda hefyd gyda buddugoliaeth o 36-17 dros Newcastle, er na ddaeth Owen Williams oddi ar y fainc.
Fe enillodd Saracens eu gêm gyntaf o’r tymor 34-28 yn erbyn Wasps hefyd, â dau flaenwr o Gymru’n dod ymlaen fel eilyddion – Rhys Gill i’r tîm buddugol, a John Yapp i’r gwrthwynebwyr.
Roedd Caerfaddon – gyda Gavin Henson, Paul James a Dominic Day yn eu tîm – hefyd yn fuddugol ar y penwythnos agoriadol dros Sale, a ddechreuodd gydag Eifion Lewis-Roberts a Marc Jones yn eu rheng flaen.
Ond fe gollodd Gwyddelod Llundain 15-20 i Harlequins, efallai am nad oedd yr un o’u Cymry yn y tîm.
Roedd un gêm yn Ffrainc hefyd ble roedd rhai o sêr Cymru i’w gweld, ac fe brofodd Jonathan Davies fuddugoliaeth gyda’i glwb newydd Clermont wrth iddyn nhw ennill yn gyfforddus 32-6 yn erbyn Racing Metro.
Roedd hi’n brynhawn siomedig i Mike Phillips, Jamie Roberts a Dan Lydiate yn nhîm Racing, ac mae’n golygu’u bod nhw’n cwympo i’r degfed safle yn y Top 14 tra bod Clermont yn codi i ail.
Seren yr wythnos – George North. Dim amheuaeth, ar ôl hat-tric gwych i ddechrau’r tymor.
Siom yr wythnos – Dan Lydiate. Cafodd ei guro’n hawdd gan Lapandry ar gyfer trydydd cais Clermont, ar brynhawn siomedig.