Mark Cavendish
Fe orffennodd Marcel Kittel yn gyntaf ar gymal agoriadol ras seiclo Taith Prydain, wrth i Mark Cavendish lwyddo i orffen yn drydydd er iddo grashio.
Roedd disgwyl y byddai’r ddau sbrintiwr yn gwneud yn dda yn y cymal cyntaf, ac felly’r oedd hi wrth i’r Almaenwr orffen yn gyntaf o flaen Nicola Ruffoni o’r Eidal a Cavendish o Ynys Manaw.
Llwyddodd nifer o feicwyr Prydeinig Sky i orffen yn y peloton hefyd, gan gynnwys cyn-enillydd y Tour de France Bradley Wiggins, y Cymro Owain Doull, a Ben Swift ddaeth yn bedwerydd.
Yn ogystal â hynny, cafodd Jonathan Mould o Gasnewydd ras gref gyda’i dîm NFTO Pro Cycling.
Cafodd y cymal agoriadol ei rasio ar hyd strydoedd Lerpwl, y cyntaf o naw cymal ar ras Taith Prydain eleni.
Heddiw fe fydd y beicwyr yn seiclo dros 200km o Lannau Mersi i Ogledd Cymru, gan adael Knowlsey a theithio heibio i Gaer, Wrecsam, Yr Wyddgrug, Llanelwy a Llanrwst cyn gorffen yn Llandudno.
Mae’r ras yn parhau drwy Gymru ddydd Mawrth, gan deithio tua’r de o’r Drenewydd ar hyd y gororau i Drefyclawdd, Talgarth, Crughywel, y Fenni a Threfynwy gan orffen ger Blaenafon.