Rhys Patchell oedd seren y gêm i’r Gleision wrth iddyn nhw ddechrau’u tymor yn y Pro12 gyda buddugoliaeth i ffwrdd yn erbyn Zebre.
Cafwyd gêm llawn ceisiau yn Parma wrth i’r rhanbarth o Gymru ddechrau cyfnod newydd o dan hyfforddiant Mark Hammett, a’r maswr Patchell yn ganolog i lawer o’u chwarae.
Y maswr sgoriodd bwyntiau cyntaf y gêm wrth ganfod bwlch ar gyfer cais gyntaf y Gleision, cyn i Patchell fwydo Cory Allen a roddodd Lloyd Williams o dan y pyst ar gyfer yr ail gais.
Rhwng y ddwy gais honno fe welodd ail reng y Gleision Filo Paulo gerdyn melyn am dacl oddi ar y bêl, gyda Luciano Orquera’n cicio tri phwynt i’r tîm cartref o’r gic gosb.
Erbyn i Paulo ddychwelyd roedd Brendan Leonard wedi croesi’r linell am gais i Zebre, a chyn yr egwyl fe sgoriodd Filippo Ferrarini ail gais i’r tîm cartref, cyn i Patchell roi’r Gleision 17-15 ar y blaen ar yr egwyl gyda chic gosb arall.
Pedwar munud i mewn i’r ail hanner roedd Zebre ar y blaen unwaith eto, gyda Dion Berryman yn sgorio ond Orquera’n methu ag ychwanegu’r trosiad.
Ond yna fe frwydrodd y Gleision yn ôl gyda cheisiau i’r cefnwr Dan Fish, asgellwr Cymru Alex Cuthbert a’r prop Kristian Dacey yn ddigon i gipio pwynt bonws iddyn nhw hefyd.
Ac er gwaethaf pwysau hwyr gan Zebre, fe ddaliodd y Gleision ymlaen i ennill y gêm o 41-26, a dechrau’u tymor mewn steil.