Rhyl 0-1 Aberystwyth
Cipiodd Aberystwyth y pwyntiau i barhau â’u dechrau da nhw i’r tymor a gadael Rhyl ar waelod tabl Uwch Gynghrair Cymru mewn gêm agos ar y Belle Vue.
Roedd disgwyl rhywfaint o goliau rhwng y ddau dîm yn y gêm fyw gyntaf o’r tymor i gael ei darlledu ar Sgorio.
Ac ar ôl dechrau digon blêr fe roddodd Chris Venables, prif sgoriwr y gynghrair, yr ymwelwyr ar y blaen wrth iddo rwydo croesiad gwych Geoff Kellaway.
Cafodd Kellaway gyfle i ddyblu’r fantais, cyn i Mike Walsh a Ryan Astles fethu cyfleoedd i’r tîm cartref.
Ond er gwaethaf pwysau hwyr, wrth i Rob Hughes fynd yn agos ag ergyd o ymyl y cwrt cosbi, doedd Rhyl methu canfod ffordd heibio i Mike Lewis yn y gôl.
Bala 8-1 Caerfyrddin
Rhoddodd y Bala gweir i Gaerfyrddin yn y gêm arall ar brynhawn dydd Sul wrth i’r tîm cartref rwydo wyth ar Faes Tegid.
Fe ddechreuodd popeth mor dda i’r ymwelwyr wrth i Kyle Bassett rwydo i’r Hen Aur ar ôl dim ond munud o chwarae.
Ond ar ôl naw munud roedd y Bala’n gyfartal wrth i Ian Sheridan rwydo i’r tîm cartref, ac erbyn yr egwyl roedd James Kelly a Ryan Valentine wedi ychwanegu rhagor o goliau.
Tri munud ar ôl yr egwyl roedd hi’n 4-1 diolch i Mike Hayes, cyn i Mark Connolly sgorio hat-tric rhwng y 60 a 74 munud i roi’r Bala’n bellach ar y blaen.
Fe ychwanegodd Hayes ei ail gyda phum munud i fynd, gan gwblhau prynhawn trychinebus i Gaerfyrddin.