Bydd beicwyr y Tour of Britain, sy’n cychwyn yn Lerpwl heddiw, yn rasio trwy wahanol ardaloedd o Gymru yfory a dydd Mawrth.
Bydd cystadleuwyr y ras yn beicio cyfanswm o 1376 cilometr dros gyfnod o 8 diwrnod gan orffen yn Llundain ddydd Sul nesaf.
Yfory, yn ail gymal y ras, bydd y beicwyr yn rasio pellter o 201 cilometr o Knowsley ar gyrion Lerpwl trwy Wrecsam, yr Wyddgrug, Llanelwy a Llanrwst gan orffen yn Llandudno.
Ddydd Mawrth, yn y trydydd cymal 180 cilometr o hyd, bydd y beicwyr yn rasio o gyrion y Drenewydd ar hyd y gororau i Drefyclawdd, Talgarth, Cruchywel, y Fenni a Threfynwy gan orffen gerllaw Blaenafon.
Bydd llawer o’r sylw ar Syr Bradley Wiggins wrth iddo geisio amddiffyn ei deitl ar ôl ennill y ras y llynedd. Ymysg yr enwau mawr eraill sy’n cymryd rhan mae Mark Cavendish, Marcel Kittel, Nicolas Roch, Lars Boom and Jack Bauer.