Neil Taylor
Mae Neil Taylor wedi awgrymu mai hon yw’r genhedlaeth o bêl-droedwyr Cymru a fydd o’r diwedd yn cyrraedd twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 1958.

Bydd y tîm yn dechrau’u hymgyrch Ewro 2016 nos Fawrth yn erbyn Andorra, a hefyd yn wynebu Bosnia-Herzegovina, Gwlad Belg, Israel a Chyprus yn y grŵp i geisio cyrraedd Ffrainc mewn dwy flynedd.

Mae’r bencampwriaeth wedi cael ei hymestyn i 24 tîm y tro hwn, gan olygu bod dau dîm gorau pob grŵp yn mynd drwyddo’n syth gyda’r trydydd yn wynebu gêm ail gyfle.

Am y tro cyntaf ers 2008 mae’n debygol y bydd Cymru’n dechrau’u hymgyrch â buddugoliaeth, gan fod Andorra’n un o dimau gwanaf pêl-droed rhyngwladol.

Dim ond un gêm gystadleuol y mae’u gwrthwynebwyr nos Fawrth erioed wedi ei ennill, ac mae Andorra wedi colli pob un o’u 44 gêm ragbrofol ddiwethaf.

Ond mae Neil Taylor yn mynnu fod tîm Cymru’n meddwl am y wobr bosib ar ddiwedd yr ymgyrch, yn hytrach na phoeni am yr embaras petai nhw’n colli i dîm fel Andorra.

“Allwch chi ddim meddwl fel yna, os ydych chi’n meddwl yn negyddol fe all pethau ddigwydd, mae’n rhaid i chi fod mor bositif â phosib a chredu’ch bod chi’n mynd i ennill pob gêm,” meddai Taylor.

“Mae buzz grêt o gwmpas y lle ar y funud, rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth ohoni.

“Hon yw’r genhedlaeth … rydyn ni wedi siarad am y peth, ac mae’n rhaid i ni geisio’i gwneud hi heb roi gormod o bwysau ar ein hunain.”

Cenfigen Cwpan y Byd

Mae Taylor, sydd yn debygol o gystadlu â Ben Davies i ddechrau fel cefnwr chwith Cymru yn erbyn Andorra, yn cyfaddef ei bod hi wedi bod yn haf anodd o ran gwylio’r pêl-droed.

Tra bod y rhan fwyaf o sêr mawr y byd wedi mynd i Frasil ar gyfer Cwpan y Byd, gan gynnwys rhai o gyd-chwaraewyr Taylor yn Abertawe, roedd rhaid iddo ef wylio’r cyfan adref ar y teledu.

Ac mae’r cefnwr 25 oed yn benderfynol fod hynny am ysgogi’r tîm i geisio cyrraedd yr un uchelfannau.

“Rydyn ni eisiau rhoi cynnig iawn arni,” meddai Taylor. “Rydyn ni’n dod nôl ar ôl haf o wylio Cwpan y Byd a gweld pobl mewn twrnament mawr, ac rydych chi eisiau rhoi cynnig iawn arni.

“Ac rydyn ni’n cael y cyfle’r tro yma i chwarae yn Andorra, i ddechrau’r ymgyrch yn dda.”

Penbleth yr ymosodwyr

Yn ogystal â phenbleth dros bwy i’w ddewis fel cefnwr chwith yn erbyn Andorra, mae safle’r ymosodwr hefyd am achosi cur pen i’r rheolwr Chris Coleman, gydag anafiadau i Sam Vokes a Hal Robson-Kanu.

Mae’n debygol mai Simon Church fydd yn dechrau nos Fawrth, ond fe allai Tom Lawrence, George Williams a hyd yn oed Gareth Bale gael eu dewis yn y safle.

Ond nid yw Taylor yn poeni’n ormodol am y broblem, gan fynnu bod rhai timau’n chwarae heb brif ymosodwr bellach a bod digon o greadigrwydd yng nghanol cae i symud Bale yn bellach ymlaen.

“Rydyn ni’n stryglo ‘chydig o ran ymosodwyr achos o anaf Vokesy, ond dwi’n meddwl bod Churchy wedi edrych yn fywiog ym mhob carfan mae wedi bod a phob tro mae wedi chwarae i Gymru,” meddai Taylor.

“Ond weithiau nawr  rydych chi’n gweld timau’n chwarae heb ymosodwr felly fe allech chi ddweud fod ffyrdd o addasu mewn pêl-droed modern.

“Mae Gareth yn gallu chwarae fyny top, ond mae gennym ni opsiynau eraill, mae gennym ni cwpl o hogiau ifanc yn dod drwyddo hefyd.

“Mae gennym ni ddigon o fygythiadau ymosodol gyda chwaraewyr fel Gareth ac Aaron [Ramsey] i frifo timau.”