Fe fethodd y Dreigiau’r cyfle i ddechrau’u tymor yn y Pro12 gyda buddugoliaeth ar ôl colli 16-11 yn Connacht.
Roedd y ddau dîm yn gyfartal 8-8 ar yr egwyl, gyda chais gan Eoin McKeon i’r tîm cartref ac yna un gan Nic Cudd i’r ymwelwyr o Went, yn ogystal a chiciau cosb gan Darragh Leader a Jason Tovey hefyd.
Yn yr ail hanner fe roddodd cic gosb arall gan Leader Connacht ar y blaen, cyn i Daniel Poolman sgorio cais hyfryd i ymestyn eu mantais.
Er gwaethaf ymdrech hwyr, doedd y Dreigiau methu canfod ail gais i geisio cau’r bwlch, ond fe gipion nhw bwynt bonws ar ôl i Tovey drosi’i ail gic gosb o’r noson.