Llwyddodd Ulster i ddod nôl o fod 27-15 ar ei hôl hi i gipio gêm gyfartal yn erbyn y Scarlets mewn gêm agoriadol gyffrous i’r tymor.

Gyda’r tîm cartref yn edrych fel petai nhw wedi llwyddo i sicrhau buddugoliaeth allweddol ym Mharc y Scarlets i ddechrau’u tymor yn y Pro12, fe groesodd Andrew Trimble am gais hwyr gafodd ei drosi.

Fe ddechreuodd pethau’n wych i’r Scarlets wrth i Harry Robinson groesi’r linell gais ar ôl dau funud, gyda Rhys Priestland yn ychwanegu’r trosiad.

Fe frwydrodd Ulster yn ôl gyda cheisiau i Franco van der Merwe a Dan Tuohy, tra bod Priestland yn cadw’r Scarlets ynddi gyda dwy gic gosb.

Roedd y Scarlets yn ôl ar y blaen pan groesodd y gŵr newydd Rory Pitman am ail gais i’r tîm cartref ar ôl cadarnhad gan y dyfarnwr fideo.

Ac roedd y Scarlets yn bellach ar y blaen erbyn yr egwyl ar ôl i Jake Ball fwydo Gareth Davies i redeg 60m am ei gyntaf o ddwy gais, gan arwain o 24-15.

Cafodd Davies ei ail gais ar ôl yr egwyl ar ôl gwaith da gan Pitman a Liam Williams, oedd wedi cael cerdyn melyn yn gynharach yn y gêm, cyn i Louis Ludik gau’r bwlch i Ulster.

Ac wrth i’r pwysau gynyddu ar y tîm cartref cafodd Williams ei ail gerdyn melyn, gan olygu coch a bath cynnar i’r cefnwr.

Fe gostiodd hynny’r fuddugoliaeth i’r Scarlets, wrth i Trimble ganfod lle gwag ar yr asgell ar ôl sgrym i sgorio’r gais olaf gyda dau funud yn weddill.