Drenewydd 4-3 Prestatyn

Llwyddodd y Drenewydd i ddod nôl o 2-0 ar ei hôl hi i drechu Prestatyn mewn gêm gyffrous yn Uwch Gynghrair Cymru’r prynhawn yma.

Rhoddodd ddwy gôl Lee Hunt Prestatyn ar y blaen ar yr egwyl, cyn i Jason Oswell ac yna gôl i’w rwyd ei hun gan David Hayes ar ôl 63 munud unioni’r sgôr.

Dau funud wedyn rhoddodd James Stead yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen, cyn i Oswell rwydo’i ail ar ôl 71 munud.

Ac roedd gôl Luke Boundford ar ôl 73 munud yn ddigon i gipio’r pwyntiau i’r Drenewydd.

Port Talbot 4-1 Derwyddon Cefn

Cipiodd Port Talbot fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Derwyddon Cefn wrth i dymor cyntaf yr ymwelwyr nôl yn yr Uwch Gynghrair barhau’n un anodd.

Rhwydodd Martin Rose o’r smotyn i’r tîm cartref ar ôl 22 munud, cyn i Lee Healey unioni’r sgôr chwe munud yn ddiweddarach.

Yna fe sgoriodd Luke Healey bob ochr i’r egwyl i roi mantais gyfforddus i Bort Talbot, cyn i Martin Rose gwblhau’r fuddugoliaeth ar ôl 56 munud.

Gap Cei Cona 1-5 Y Seintiau Newydd

Sicrhaodd Y Seintiau Newydd fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Gap Cei Cona ar nos Wener i aros ar frig y tabl, gydag Adrian Cieslewicz yn rhwydo’r gôl gyntaf.

Dyblodd Alex Darlington y fantais yn yr ail hanner cyn i Greg Draper rwydo dwy, ac er i Jack Rowlands dynnu un nôl i’r tîm cartref cafodd Chris Sargeant y gair olaf i’r Seintiau.

Bangor 1-2 Airbus

Cipiodd Airbus dri phwynt pwysig yn erbyn Bangor i barhau â’u dechrau da i’r tymor nos Wener.

Rhoddodd Tom Fifield yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl pum munud cyn i Les Davies unioni’r sgôr jyst cyn hanner amser, ond roedd cic o’r smotyn Matty McGinn ar ôl 67 munud yn ddigon i’w chipio hi.