Ashya King
Mae Ashya King, y bachgen pum mlwydd oed sy’n dioddef o ganser yr ymennydd, wedi gadael yr ysbyty yn Sbaen.
Mae’n debyg bod Ashya a’i rieni yn teithio i Prague yn y Weriniaeth Siec er mwyn iddo gael triniaeth arbenigol.
Mae’n cael ei gludo o faes awyr Malaga i Prague mewn awyren breifat.
Cafodd ei rieni, Brett a Naghmeh King, eu harestio yn Sbaen ar ôl iddyn nhw fynd a’u mab o Ysbyty Cyffredinol Southampton ar 28 Awst heb ganiatâd meddygon.
Cafodd cais i’w hestraddodi yn ôl i Brydain ei ollwng yn ddiweddarach.