Mae tagfeydd o hyd at ddeng milltir ar hyd yr M4 yn agos i Gasnewydd ar ôl damwain rhwng pum car.
Fe darodd y ceir â’r rhwystrau canolog ar y draffordd, wrth iddyn nhw deithio tua’r dwyrain o gwmpas Bryn Sain Silian.
Dyw Heddlu Gwent ddim wedi cadarnhau eto a oes unrhyw un wedi’u hanafu.
Cafodd dwy lôn ar y draffordd eu cau tra bod y gwasanaethau brys yn delio â’r ddamwain.
Mae cerbydau bellach yn teithio ar y llain galed ond mae’r tagfeydd yn golygu fod teithwyr yn wynebu aros am bron i awr mewn traffig araf.
Mae’r traffig yn ymestyn yr holl ffordd nôl at barc busnes Porth Caerdydd, ac yn golygu fod oedi o gwmpas y gyffordd i’r A48 hefyd.