Gwrthyrfelwyr IS yn ymosod ar filwyr Irac yn gynharach eleni (llun: PA)
Mae lluoedd America wedi ymosod o’r awyr ar wrthryfelwyr Islamic State (IS) sy’n ceisio ennill rheolaeth o argae allweddol Haditha yng ngorllewin Irac.
Er bod yr argae o dan reolaeth llywodraeth Irac ar hyn o bryd, mae IS wedi bod yn ceisio rheolaeth o argaeau ledled y wlad.
Argae Haditha sy’n cynnal y gronfa ddŵr ail fwyaf yn Irac, sy’n cyflenwi chwe gorsaf gynhyrchu trydan gerllaw.
Y mis diwethaf, llwyddodd lluoedd Irac, gyda help llwythau Sunni lleol, i orchfygu ymgais IS i’w chipio.
Mae ymosodiad diweddaraf America’n dilyn llwyddiant ymosodiad tebyg ganddyn nhw i rwystro IS rhag cipio rheolaeth o argae Mosul yng ngogledd y wlad.