Pwysau ar David Cameron i weithredu
Mae dwsinau o ymfudwyr yn Calais wedi ceisio mynd ar long fferi oedd yn teithio i Brydain, wrth i Ffrainc roi pwysau ar David Cameron i wneud mwy i fynd i’r afael ag ymfudwyr anghyfreithlon ar draws y Sianel.

Cafodd heddlu terfysg eu hanfon i’r safle wrth i hyd at 100 o bobl fynd heibio rhwystrau i geisio mynd ar fwrdd y llong fferi.

Ond fe gawson nhw eu rhwystro ar ôl i griw’r llong godi’r ramp a chwistrellu dŵr atyn nhw ddoe, meddai swyddogion a llygad dystion.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni MyFerryLink: “Gall MyFerryLink gadarnhau bod digwyddiad wedi cymryd lle yn Calais ddoe, lle’r oedd nifer o ymfudwyr wedi ceisio cael mynediad at y porthladd a cheisio mynd ar fwrdd MyFerryLink Berlioz.

“Fe wnaeth y criw gymryd camau ar unwaith er mwyn sicrhau diogelwch y llong ac roedd ymdrech yr ymfudwyr yn aflwyddiannus.”

Daw’r digwyddiad wrth i densiynau gynyddu ar draws y Sianel oherwydd y nifer cynyddol o ymfudwyr sy’n heidio i Calais.

Mae wedi arwain at wrthdaro rhwng rhai ymfudwyr, y rhan fwyaf sy’n dod o wledydd Affrica fel Swdan ac Eritrea.

Mae maer Calais, Natacha Bouchart, wedi bygwth cau’r porthladd mewn ymdrech i orfodi Prydain i weithredu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llu Ffiniau’r DU eu bod nhw eisoes wedi gwneud gwelliannau i wella diogelwch yn Calais ac yn gweithio gyda’r awdurdodau yn Ffrainc.