AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth
Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn bwriadu cyflwyno gwrthwynebiad cryf pobl yr ynys i safle wastraff niwclear mewn cyfarfod cyhoeddus heno.

Fe ddatgelodd Golwg ym mis Ebrill fod ’safleoedd yng Nghymru’n cael eu hystyried ar gyfer tomen i holl wastraff ymbelydrol lefel uchel y Deyrnas Unedig.

Roedd yr ymateb ar y pryd yn chwyrn yn erbyn y posibiliad, gyda’r AC lleol ac Aelod Seneddol yr ynys, Albert Owen yn mynnu na fydden nhw o blaid gweld safle o’r fath yn dod i Fôn.

Mae CoRWM, corff llywodraeth Prydain sydd â chyfrifoldeb dros ganfod safle ar gyfer y gwastraff, yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Llys Tre-Ysgawen heddiw i drafod eu gwaith.

Hon yw un o dri lleoliad yn unig ble mae CoRWM yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus – mae’r ddau arall yn Sellafield, Cumbria a Thurso, Caithness hefyd yn agos i safleoedd niwclear.

‘Neges glir o Fôn’

Mae hynny wedi arwain trigolion lleol i boeni fod Ynys Môn, gyda’i phwerdy niwclear yn Wylfa, yn cael ei hystyried gan CoRWM fel un o’r ardaloedd fyddai’n fwy tebygol o dderbyn safle wastraff.

“Os ydyn nhw’n chwilio am ateb i’r broblem yma, dydyn nhw ddim am ffeindio’r ateb yn Ynys Môn,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth golwg360.

“Bydd hi’n ddiddorol gweld beth fydd y cyflwyniad maen nhw’n ei wneud. Ond mae’r neges yn hollol glir o Sir Fôn nad ydan ni’n mynd i ganiatáu unrhyw ‘geological dump’ yma.

“Maen nhw’n mynd o gwmpas yn gweld be ydi’r farn mewn gwahanol lefydd, ac fe fydda’ i ac eraill mae’n siŵr yn ei gwneud hi’n glir beth ydi’r farn yn fan hyn.

“Does ganddyn nhw ddim mandad i fod yma i chwilio am gydweithrediad Ynys Môn felly fe fydd hi’n ddiddorol gweld sut maen nhw’n geirio beth maen nhw’n ei gyflwyno hefyd.”

Plenari caeedig

Yn ogystal â chyfarfod cyhoeddus heno, fe fydd CoRWM hefyd yn cynnal plenari caeedig fore ddydd Gwener, ac mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru ymysg y rhai sydd wedi’i wahodd.

Gwaith CoRWM yw ceisio canfod ardal fyddai’n fodlon derbyn y safle wastraff niwclear yn wirfoddol, gyda’r awgrym y gallai buddion economaidd ychwanegol gael eu cynnig i fynd law yn llaw â hynny.

Ond fe fyddai unrhyw safle yng Nghymru – gyda Thrawsfynydd hefyd wedi’i grybwyll yn nogfennau CoRWM – yn gorfod cael caniatâd yr ardal leol yn ogystal â Llywodraeth Cymru, sydd ddim wedi datgan safbwynt ar y mater hyd yn hyn.