Steven Sotloff yn fideo IS
Mae teulu’r newyddiadurwr o America gafodd ei lofruddio gan eithafwyr Islamaidd IS wedi bod yn rhoi teyrnged iddo.

Dywedodd llefarydd ar ran teulu Steven Sotloff yn Miami bod y newyddiadurwr “wedi ceisio rhoi llais” i’r rhai oedd yn dioddef mewn rhyfeloedd.

Cafodd Steven Sotloff ei gipio yn Syria ym mis Awst y llynedd.

Ddydd Mawrth cafodd fideo ei rhyddhau ar-lein a oedd yn dangos Steven Sotloff yn cael ei ddienyddio gan eithafwr IS.